Cystadleuthau

 

Sefydlwyd nifer o gystadlaethau gan y Gymdeithas ar gyfer pobl ifanc o'r sir gan gynnwys gwobrau traethawd Charles Churchill a Vaughan Davies, gwobr celf Clement Davies a gwobr cerdd Garthgwynion.  Yn 1995, sefydlwyd gwobr newydd i fyfyrwyr o Goleg Powys.  Dyma efallai y ffordd mwyaf gweladwy y mae'r Gymdeithas yn cyfrannu i fywyd presennol y sir.

CYSTADLEUAETH FLYNYDDOL YSGOLION 2009
CYMDEITHAS MALDWYN

TRAETHAWD yn y Gymraeg neu’r Saesneg heb fod dros 1,500 o eiriau ar un o’r testunau canlynol:

Fy mreuddwyd
A wnaiff Prydain fyth ethol Prif Weinidog du neu Asiaidd? Trafodwch
Mae’n rhaid fod arholiadau allanol yn mynd yn rhwyddach. Trafodwch
Buaswn wrth fy modd yn treulio diwrnod gyda………
Fy hoff awdur

 

CELFYDDYD-Gwaith clef mewn unrhyw gyfrwng ar un o’r themau canlynol:

Fy arwr/arwrws
Paradwys
Golygfa aeafol o Sir Drefaldwyn
Bywyd llonydd
Hunan ddewisiad

 

ADRANNAU: Er mwyn beirnaidu a dosbarthu’r gwobrau, trefnir y gystadleuath mwen 3 adran

Adran A: Blynyddoedd 7&8

Adran B: Blynyddoedd 9&10

Adran C: Blynyddoedd 11-13

 

GWOBRAU

Gwobr 1af     Pob adran  Ł70

Ail wobr         Pob adran  Ł35       

 

Dylid cyflwyno’r cyfansoddiadau erbyn dydd Mawrth, 24ain Chwefror, 2009.

Pwysleisiwn na ddylai enwau’r disgyblion ymddangos ar y cyfansoddiadau.

 


Rheolau ac Amodau

Rhaid i bob cyfansoddiad fod yn waith o eiddo'r cystadleuydd ei hun

Gellir ysgrifennu traethawd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Rhaid cyflwyno pob cyfansoddiad trwy law y Prifathro/athrawes

Rhaid ysgrifennu mewn LLYTHRENNAU BRAS enw llawn pob cystadleuydd yn ogystal ag enw'r ysgol, adran y gystadleuaeth a theitl y traethawd neu thema'r gwaith celf ar ddarn o babur ar wahân i'w gyflwyno gyda'r cyfansoddiad.

Dylid ysgrifennu teitl y traethawd (a'r teil yn unig) ar y dechrau.

Dylid ysgrifennu thema'r gwaith celf (a'r thema yn unig) ar gefn yr arlunwaith.

Ni chaniateir dangos enw cystadleuydd nac enw'r ysgol ar y cyfansoddiad ei hun.

Dylid cyflwyno'r cyfansoddiadau erbyn 24ain Chwefror, 2009

Y mae gwobrau Vaughan Davies am draethodau Cymraeg yn ychwanegol at wobrau Charles Churchill a felly mae'n bosib i draethawd Cymraeg ennill dwy wobr.

Er y gwneir pob ymdrech i ofalu am y cyfansoddiadau a gyflwynir, ni fedr y Gymdeithas dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu newid. Gobeithiwn y bydd yn bosib arddangos y cyfansoddiadau buddugol. Gofynnir i gystadleuwyr gadw copi electroneg o'u treathawd fel y gallwn holi am gopi.

 

Cartref
Rhaglen
Oriel
Cystadleuthau
Ymddiriedolaethau
Aelodaeth
Cysylltu
Cysylltiadau

Strategic Development: Smadar Strategies sandra@smadar.co.uk, 01242 620 403
Branding: Monster Creative rich@monster-creative.com, 01531 636 570
Website: Matthew Richards webmaster@montsoc.org.uk